PepLamb's Audio Bible
Loading God's Word...
Porth fy wyn | Ioan 21:15-17
Gen.3.1

A’r sarff oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes, y rhai a wnaethai yr Arglwydd Dduw . A hi a ddywedodd wrth y wraig, Ai diau ddywedyd o Dduw , Ni chewch chwi fwyta o bob pren o’r ardd?

Genesis 3
Genesis 3:1-7
Genesis 3:1-24

The Serpent’s Deception

The Fall of Man
1 A’r sarff oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes, y rhai a wnaethai yr Arglwydd Dduw . A hi a ddywedodd wrth y wraig, Ai diau ddywedyd o Dduw , Ni chewch chwi fwyta o bob pren o’r ardd?
2 A’r wraig a ddywedodd wrth y sarff, O ffrwyth prennau yr ardd y cawn ni fwyta:
3 Ond am ffrwyth y pren sydd yng nghanol yr ardd, Duw a ddywedodd, Na fwytewch ohono, ac na chyffyrddwch ag ef, rhag eich marw.
4 A’r sarff a ddywedodd wrth y wraig, Ni byddwch feirw ddim.
5 Canys gwybod y mae Duw , mai yn y dydd y bwytaoch ohono ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau, yn gwybod da a drwg.
6 A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai teg mewn golwg ydoedd, a’i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymerth o’i ffrwyth ef, ac a fwytaodd, ac a roddes i’w gŵr hefyd gyda hi, ac efe a fwytaodd.
7 A’u llygaid hwy ill dau a agorwyd, a hwy a wybuant eu bod yn noethion, ac a wniasant ddail y ffigysbren, ac a wnaethant iddynt arffedogau.
Darlun ar gyfer Genesis 3:1

Croesgyfeiriadau

Nid oes croesgyfeiriadau ar gael ar gyfer yr adnod hon.